Mark 8:17 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ phan ei gwybu ’r Iesu, y dyvot wrthwynt, Pa resymy dd ych velly, can na’d oes genwch vara? a ny d ych vvi yn synniaw etwa, nag yn deall y? A ytyw eich calonae eto genwch wedy ’r argaledu?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A chan wybod o’r Iesu, dywedodd wrthynt, Paham yr ymresymmwch am nad oes torthau genych? Onid ydych etto yn ystyried nac yn deall? Ai wedi ei chaledu y mae eich calon genych?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A phan wybu, fe ddywed wrthynt, “Paham yr ymresymwch nad oes gennych fara? Oni welwch fyth, ac oni ddeellwch? Ai wedi ei dallu y mae eich calon gennych?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan wybu'r Iesu, efe a ddywedodd wrthynt, Pa ymresymu yr ydych, am nad oes gennych fara? onid ydych chwi eto yn ystyried, nac yn deall? ydyw eich calon eto gennych wedi caledu?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd Iesu'n gwybod beth roedden nhw'n ddweud, a gofynnodd iddyn nhw: “Pam dych chi'n poeni eich bod heb fara? Ydych chi'n dal ddim yn deall? Pryd dych chi'n mynd i ddysgu? Ydych chi wedi troi'n ystyfnig?
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Deallodd yntau hyn, ac meddai wrthynt, "Pam yr ydych yn trafod nad oes gennych fara? A ydych eto heb weld na deall? A yw eich meddwl wedi troi'n ystyfnig?
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r Iesu pan wybu, a ddywed wrthynt, Paham yr ymresymwch, mai am nad oes genych fara y lleferais? Onid ydych chwi eto yn amgyffred, nac yn deall? A ydyw eich calon wedi caledu? Ac onid ydych yn cofio?