Mark 8:2 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ydd wyf yn tosturiaw wrth y tyrfa, can ys yddwynt aros y gyd a mi er ys tri‐die, ac nid oes Ganthwynt dim yw vwyta.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
dywedodd wrthynt, Tosturio yr wyf wrth y dyrfa, canys weithian tridiau sydd y maent yn aros gyda Mi, ac nid oes ganddynt yr hyn a fwyttant;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
“Y mae’n ddrwg gan fy nghalon dros y dyrfa, canys yn awr y maent ers tridiau’n tario gyda mi, ac nid oes ganddynt ddim i’w fwyta;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr wyf fi yn tosturio wrth y dyrfa, oblegid y maent hwy dridiau weithian yn aros gyda mi, ac nid oes ganddynt ddim i'w fwyta:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Dw i'n teimlo dros y bobl yma i gyd; maen nhw wedi bod yma ers tri diwrnod heb gael dim i'w fwyta.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Yr wyf yn tosturio wrth y dyrfa, oherwydd y maent wedi bod gyda mi dridiau erbyn hyn, ac nid oes ganddynt ddim i'w fwyta.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
ac a ddywed, Yr wyf yn tosturio wrth y dyrfa, oblegyd y maent hwy dridiau weithian yn glynu wrthyf, ac nid oes ganddynt beth i'w fwyta: