Mark 8:21 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y dyvot ef wrthwynt, P’wedd yvv na ydyellwch?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A dywedasant Wrtho, Saith. A dywedodd wrthynt, Onid ydych etto yn deall?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac meddai wrthynt, “Onid ydych eto’n deall?”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pa fodd nad ydych yn deall?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Ydych chi'n dal ddim yn deall?” meddai Iesu wrthyn nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac meddai ef wrthynt, "Onid ydych eto'n deall?"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ai nid ydych eto yn deall?