Mark 8:23 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y cymerawdd ef y dall erbyn, ei law, ac ei tywysawdd allan o’r dref, ac a boyrawdd yn ei lygait, ac a ’osodes ei ddwylaw arno, ac a ovynaw d d iddaw a welei ef ddim.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi ymaflyd yn llaw y dall, cymmerodd ef allan o’r pentref. Ac wedi poeri o Hono i’w lygaid ef, a rhoddi Ei ddwylaw arno, gofynodd iddo, A weli di ryw beth?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac fe ymafaelodd yn llaw’r dall, a dug ef allan o’r pentref; ac wedi poeri ar ei lygad, dododd ei ddwylo arno, a gofynnai iddo, “A weli di rywbeth?”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi ymaflyd yn llaw y dall, efe a'i tywysodd ef allan o'r dref: ac wedi iddo boeri ar ei lygaid ef, a dodi ei ddwylo arno, efe a ofynnodd iddo, a oedd efe yn gweled dim.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Gafaelodd Iesu yn llaw y dyn dall a'i arwain allan o'r pentref. Ar ôl poeri ar lygaid y dyn a gosod dwylo arno, gofynnodd Iesu iddo, “Wyt ti'n gweld o gwbl?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gafaelodd yn llaw'r dyn dall a mynd ag ef allan o'r pentref, ac wedi poeri ar ei lygaid rhoes ei ddwylo arno a gofynnodd iddo, "A elli di weld rhywbeth?"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a afaelodd yn llaw y dall, ac a'i dygodd ef allan o'r pentref; ac wedi iddo boeri ar ei lygaid ef, a gosod ei ddwylaw arno, efe a ofynodd iddo, A weli di ddim?