Mark 8:24 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ef a edrychodd i vyny dd, ac a ddyuot, Mi welaf ddynion: can ys gwelaf wy yn gorymddaith, mal petyn breniae.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi edrych i fynu, dywedodd, Gwelaf ddynion, fel preniau y gwelaf hwynt, yn rhodio.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A chododd ei olwg, ac meddai, “Mi welaf ddynion, canys rhai fel coed a ganfyddaf yn cerdded.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi edrych i fyny, efe a ddywedodd, Yr ydwyf yn gweled dynion megis prennau yn rhodio.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Edrychodd i fyny, ac meddai, “Ydw, dw i'n gweld pobl; ond maen nhw'n edrych fel coed yn symud o gwmpas.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Edrychodd i fyny, ac meddai, "Yr wyf yn gweld pobl, maent yn edrych fel coed yn cerdded oddi amgylch."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac wedi edrych i fyny, efe a ddywedodd, yr wyf yn gweled y dynion: canys yr wyf yn eu canfod fel prenau yn rhodio o amgylch.