Mark 8:25 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Gwedy hyny, y gesodes ef, ei ddwylo drachefyn ar y lygait ef, ac y parawdd iddo edrych-drachefn. Ac ef a edverwyt iddo ei olvvc, ac ef a welawdd bavvp oll o bell ac yn eglaer.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yna y rhoddodd Efe trachefn Ei ddwylaw ar ei lygaid ef; a gwelodd efe yn drwyadl, ac adferwyd ef, a gwelodd bob peth yn eglur.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ar hyn dododd ei ddwylo drachefn ar ei lygaid ef; a chraffodd ef, ac adferwyd ef; ac fe welai ymhell ac yn glir bopeth.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Wedi hynny y gosododd efe ei ddwylo drachefn ar ei lygaid ef, ac a barodd iddo edrych i fyny: ac efe a gafodd ei olwg, ac efe a welai bawb o bell, ac yn eglur.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna rhoddodd Iesu ei ddwylo ar lygaid y dyn eto. Pan agorodd y dyn ei lygaid, roedd wedi cael ei olwg yn ôl! Roedd yn gweld popeth yn glir.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna rhoes ei ddwylo drachefn ar ei lygaid ef. Craffodd yntau, ac adferwyd ef; yr oedd yn gweld popeth yn eglur o bell.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yna drachefn y gosododd efe ei ddwylaw ar ei lygaid, ac efe a edrychodd yn ddiysgog, ac a adferwyd, ac efe a welai bob peth yn eglur o bell.