Mark 8:27 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r Iesu aeth allan, ef a ei ðiscipulō i Caesarea Philippi. Ac ar y ffordd yr ymovynnawð ef a ei ddiscipulon, gan ddywedyt wrthynt, Pwy’ n medd dynion yt wy vi?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac aeth yr Iesu a’i ddisgyblion allan i bentrefi Cesarea Philippi. Ac ar y ffordd gofynodd i’w ddisgyblion, Pwy y dywaid dynion Fy mod I?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac aeth yr Iesu a’i ddisgyblion allan i bentrefydd Cesarea Philippi; ac ar y ffordd gofynnai i’w ddisgyblion, gan ddywedyd wrthynt, “Pwy medd dynion ydwyf fi?”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r Iesu a aeth allan, efe a'i ddisgyblion, i drefi Cesarea Philipi: ac ar y ffordd efe a ofynnodd i'w ddisgyblion, gan ddywedyd wrthynt, Pwy y mae dynion yn dywedyd fy mod i?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Aeth Iesu a'i ddisgyblion yn eu blaenau i'r pentrefi o gwmpas Cesarea Philipi. Ar y ffordd yno gofynnodd iddyn nhw, “Pwy mae pobl yn ddweud ydw i?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Aeth Iesu a'i ddisgyblion allan i bentrefi Cesarea Philipi, ac ar y ffordd holodd ei ddisgyblion: "Pwy," meddai wrthynt, "y mae pobl yn dweud ydwyf fi?"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r Iesu a aeth allan, efe a'i Ddysgyblion, i bentrefi Cesarea Philippi: ac ar y ffordd efe a ofynodd i'w Ddysgyblion, gan ddywedyd, Pwy y mae dynion yn dywedyd fy mod i?