Mark 8:28 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac wy a atebesont, yr ei a ddvvvait mai Ioan Vatydiwr: a’r ei, Elias: a’r ei mai vn o’r Propwyti.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A hwy a lefarasant Wrtho, gan ddywedyd, Ioan Fedyddiwr; ac eraill, Elias; ac eraill, Un o’r prophwydi.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A mynegasant hwythau iddo, gan ddywedyd, “Ioan Fedyddiwr; ac eraill Elïas; ond eraill un o’r proffwydi.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hwy a atebasant, Ioan Fedyddiwr; a rhai, Eleias; ac eraill, Un o'r proffwydi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma nhw'n ateb, “Mae rhai yn dweud mai Ioan Fedyddiwr wyt ti; eraill yn dweud Elias; a phobl eraill eto'n dweud mai un o'r proffwydi wyt ti.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedasant hwythau wrtho, "Mae rhai'n dweud Ioan Fedyddiwr, ac eraill Elias, ac eraill drachefn, un o'r proffwydi."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A hwy a ddywedasant iddo, gan ddywedyd, Ioan Fedyddiwr; ac eraill, Elias; ond eraill, un o'r Proffwydi.