Mark 8:3 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac a’s anvonaf wy ymaith eb vwyt y’w teie ehunain, wy loysygant ar y ffordd: can ys yr ei o hanaddynt a ddeuthant o bell.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac os gollyngaf hwynt ymaith ar eu cythlwng i’w teiau, llewygent ar y ffordd; a rhai o honynt, o hirbell y daethant.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ac os gollyngaf hwynt ar eu cythlwng adref, llewygant ar y ffordd; ac y mae rhai ohonynt o bell.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac os gollyngaf hwynt ymaith ar eu cythlwng i'w teiau eu hunain, hwy a lewygant ar y ffordd: canys rhai ohonynt a ddaeth o bell.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Os na chân nhw rywbeth i'w fwyta byddan nhw'n llewygu ar y ffordd adre. Mae rhai ohonyn nhw wedi dod o bell.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac os anfonaf hwy adref ar eu cythlwng, llewygant ar y ffordd; y mae rhai ohonynt wedi dod o bell."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
ac os gollyngaf hwynt ymaith heb fwyd i'w cartref‐leoedd, hwy a ddiffygiant ar y ffordd; ac y mae rhai o honynt wedi dyfod o bell.