Mark 8:31 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y dechreawdd ei dyscy y byddei ddir y Vap y dyn ddyoðef llawer o bethæ, a’ ei argyweddy y gan yr Henaif ieid, a chan yr Archoffeiriait a’ r Gwyr‐llen, a’ chael ei ladd, ac o vewn tri dic‐yfody drachefyn.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A dechreuodd eu dysgu hwynt, Y mae rhaid i Fab y Dyn oddef llawer, ac Ei wrthod gan yr henuriaid a’r archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion, ac Ei ladd, ac ar ol tridiau adgyfodi.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A dechreuodd eu dysgu fod yn rhaid i Fab y dyn ddioddef llawer, a’i wrthod gan yr henuriaid a’r archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion, a’i ladd, ac wedi tridiau atgyfodi;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a ddechreuodd eu dysgu hwynt, fod yn rhaid i Fab y dyn oddef llawer, a'i wrthod gan yr henuriaid, a'r archoffeiriaid, a'r ysgrifenyddion, a'i ladd, ac wedi tridiau atgyfodi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dechreuodd esbonio iddyn nhw fod rhaid iddo fe, Mab y Dyn, ddioddef yn ofnadwy. Byddai'r arweinwyr Iddewig, y prif offeiriaid a'r arbenigwyr yn y Gyfraith yn ei wrthod. Byddai'n cael ei ladd, ond yna'n dod yn ôl yn fyw ddeuddydd wedyn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna dechreuodd eu dysgu bod yn rhaid i Fab y Dyn ddioddef llawer, a chael ei wrthod gan yr henuriaid a'r prif offeiriaid a'r ysgrifenyddion, a'i ladd, ac ymhen tridiau atgyfodi.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a ddechreuodd eu dysgu hwynt, fod yn rhaid i Fab y Dyn ddyoddef llawer, a'i wrthod gan yr Henuriaid, a'r Arch‐offeiriaid, a'r Ysgrifenyddion, a'i ladd, ac wedi tridiau adgyfodi.