Mark 8:32 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ef a adrodes y peth hyny yn ’olae. Yno y cymerth Petr ef or ailltu, ac a ddechreodd roi iddo sen.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac yn eglur y llefarodd Efe y gair hwn. Ac wedi Ei gymmeryd Ef atto, Petr a ddechreuodd Ei ddwrdio Ef.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
a difloesgni y llefarai’r ymadrodd. A chymerth Pedr ef ato, a dechreuodd ei geryddu.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r ymadrodd hwnnw a ddywedodd efe yn eglur. A Phedr a ymaflodd ynddo, ac a ddechreuodd ei geryddu ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd yn siarad yn hollol blaen gyda nhw. Felly dyma Pedr yn mynd ag e i'r naill ochr a dweud drefn wrtho am ddweud y fath bethau.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd yn llefaru'r gair hwn yn gwbl agored. A chymerodd Pedr ef ato a dechrau ei geryddu.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac yn eglur y llefarodd efe yr ymadrodd. A Phetr a'i cymmerodd o'r neilldu, ac a ddechreuodd ei geryddu ef.