Mark 8:33 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno ydd ad ymchoelawdd ef, ac ydd edrychawdd ar ei ddiscipulon, ac yrrhoes‐sen i Petr, gan ðywedyt, Tynn ar v’ol i Satan: can na synny bethae Duw, eithr pethae dynion.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi troi o Hono, a chan weled Ei ddisgyblion, dwrdiodd Petr, a dywedodd, Dos yn fy ol I, Satan, canys nid synied pethau Duw yr wyt, eithr pethau dynion.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Troes yntau, ac wrth weled ei ddisgyblion, ceryddodd Bedr; ac medd ef, “Dos yn fy ol i, Satan; canys nid wyt yn synio pethau Duw, ond pethau dynion.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr wedi iddo droi, ac edrych ar ei ddisgyblion, efe a geryddodd Pedr, gan ddywedyd, Dos ymaith yn fy ôl i, Satan; am nad wyt yn synied y pethau sydd o Dduw, ond y pethau sydd o ddynion.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond trodd Iesu i edrych ar ei ddisgyblion, ac yna dweud drefn wrth Pedr o'u blaenau nhw. “Dos o'm golwg i Satan!” meddai. “Rwyt ti'n meddwl fel mae pobl yn meddwl yn lle gweld pethau fel mae Duw'n eu gweld nhw.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Troes yntau, ac wedi edrych ar ei ddisgyblion ceryddodd Pedr. "Dos ymaith o'm golwg, Satan," meddai, "oherwydd nid ar bethau Duw y mae dy fryd ond ar bethau dynol."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eithr wedi iddo droi, a gweled ei Ddysgyblion, efe a geryddodd Petr, ac a ddywed, Dos ymaith yn fy ol i, Satan; canys nid ydwyt yn synied y pethau sydd o Dduw, ond y pethau sydd o ddynion.