Mark 8:34 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ gwedy iddo ’alw y werin attaw gyd aei ðiscipulon, a’ dywedyt wrthynt, Pwy pynac a wyllysa ddyvot ar v’ol i, ymwrthodet ac ef yhun, a’ chym e red i vyny ei groc, a’ dylynet vi.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi galw y dyrfa Atto ynghyd a’i ddisgyblion, dywedodd wrthynt, Os yw neb yn ewyllysio dyfod ar Fy ol I, ymwaded ag ef ei hun, a chymmered i fynu ei groes, a chanlyned Fi; canys pwy bynnag a ewyllysio gadw ei einioes, a’i cyll hi;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A galwodd ato’r dyrfa ynghyda’i ddisgyblion, a dywedodd wrthynt, “Os myn neb ddyfod ar fy ol i, ymwaded ag ef ei hun, a chyfoded ei groes, a dilyned fi.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi iddo alw ato y dyrfa, gyda'i ddisgyblion, efe a ddywedodd wrthynt, Y neb a fynno ddyfod ar fy ôl i, ymwaded ag ef ei hun, a chyfoded ei groes, a dilyned fi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wedyn galwodd y dyrfa ato gyda'i ddisgyblion, a dwedodd wrthyn nhw: “Rhaid i bwy bynnag sydd am fy nilyn i stopio rhoi nhw eu hunain gyntaf. Rhaid iddyn nhw aberthu eu hunain dros eraill a cherdded yr un llwybr â mi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Galwodd ato'r dyrfa ynghyd 'i ddisgyblion a dywedodd wrthynt, "Os myn neb ddod ar fy l i, rhaid iddo ymwadu ag ef ei hun a chodi ei groes a'm canlyn i.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a alwodd ato y dyrfa, gyda'i Ddysgyblion, ac a ddywedodd wrthynt, Os ewyllysia neb ganlyn ar fy ol i, ymwaded âg ef ei hun, a chyfoded ei groes i fyny, a dylyned fi.