Mark 8:38 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys pwy pynac a wrido om pleit i, n’am geiriae ym‐plith yr ’odinebus a’r bechadurus genedlaeth hon, o bleit yntef y gwrida Map y dyn hefyt, pan ddel yn‐gogoniant ei Dat y gyd a’r Angelion sainct us.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Canys pwy bynnag fo ag arno gywilydd o Myfi a’m geiriau Yn y genhedlaeth odinebus a phechadurus hon; Mab y Dyn hefyd fydd ag Arno gywilydd o hono ef, Pan ddaw yngogoniant Ei Dad ynghyda’r angylion sanctaidd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys pwy bynnag y bo arno gywilydd ohonof fi ac o’m geiriau yn y genhedlaeth anffyddlon a phechadurus hon, ar Fab y dyn yntau y bydd cywilydd ohono ef, pan ddêl yng ngogoniant ei Dad gyda’r angylion santaidd.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys pwy bynnag a fyddo cywilydd ganddo fi a'm geiriau yn yr odinebus a'r bechadurus genhedlaeth hon; bydd cywilydd gan Fab y dyn yntau hefyd, pan ddêl yng ngogoniant ei Dad, gyda'r angylion sanctaidd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pawb sydd â chywilydd ohono i a beth dw i'n ei ddweud yn yr oes ddi-gred a phechadurus yma, bydd gen i, Fab y Dyn, gywilydd ohonyn nhw pan fydda i'n dod yn ôl yn holl ysblander y Tad, a'r angylion sanctaidd gyda mi.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pwy bynnag fydd chywilydd ohonof fi ac o'm geiriau yn y genhedlaeth annuwiol a phechadurus hon, bydd ar Fab y Dyn hefyd gywilydd ohonynt hwy, pan ddaw yng ngogoniant ei Dad gyda'r angylion sanctaidd."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys pwy bynag a fyddo cywilydd ganddo fi a'm geiriau yn y genedlaeth odinebus a phechadurus hon, bydd cywilydd gan Fab y Dyn yntau hefyd, pan ddêl yn Ngogoniant ei Dâd, gyda'r Angelion sanctaidd.