Mark 8:6 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y gorchymynawdd ef yr tyrfa eistedd ar y ddaear: ac ef a gymerawdd y saith torth, ac wedy iddo ddiol vv ch, eu torawdd, ac eu rhoddes y’w ddiscipulon yw gesot geyr eu bron, ac wy ei gesodesont geyr bron y popul.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A hwy a ddywedasant, Saith. A gorchymynodd i’r dyrfa led-orwedd ar y ddaear; ac wedi cymmeryd y saith dorth a rhoddi diolch, torrodd hwynt, a rhoddodd i’w ddisgyblion, fel y gosodent ger eu bronnau: a gosodasant ger bron y dyrfa.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac fe orchymyn i’r dyrfa eistedd ar y llawr; ac fe gymerth y saith dorth, ac wedi diolch, torrodd, a rhoddai hwynt i’w ddisgyblion i’w gosod o’u blaenau; a gosodasant hwynt o flaen y dorf.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a orchmynnodd i'r dyrfa eistedd ar y llawr: ac a gymerodd y saith dorth, ac a ddiolchodd, ac a'u torrodd hwynt, ac a'u rhoddes i'w ddisgyblion, fel y gosodent hwynt ger eu bronnau; a gosodasant hwynt gerbron y bobl.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dwedodd Iesu wrth y dyrfa am eistedd i lawr. Cymerodd y saith torth ac offrymu gweddi o ddiolch i Dduw, yna eu torri a'u rhoi i'w ddisgyblion i'w rhannu i'r bobl. A dyna wnaeth y disgyblion.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gorch-mynnodd i'r dyrfa eistedd ar y ddaear. Yna cymerodd y saith torth, ac wedi diolch fe'u torrodd a'u rhoi i'w ddisgyblion i'w gosod gerbron; ac fe'u gosodasant gerbron y dyrfa.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac y mae efe yn gorchymyn i'r dyrfa eistedd ar y ddaear: ac a gymmerodd y saith torth, ac wedi diolch, efe a'u torodd, ac a'u rhoddodd i'r Dysgyblion i'w gosod ger eu bron; a hwy a'u gosodasant ger bron y dyrfa.