Mark 8:7 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ydd oedd ganthwynt ychydic pyscot bychain: ac wedy iddo vendithiaw, ef archawdd yddwynt hefyd ei gesot geyr eu bron.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac yr oedd ganddynt ychydig bysgod bychain; ac wedi eu bendithio hwynt, dywedodd am eu rhoddi hwynt hefyd ger bron.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac yr oedd ganddynt ychydig o fân bysgod; ac wedi iddo’u bendithio dywedodd am roi’r rheini hefyd o’u blaenau.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yr oedd ganddynt ychydig bysgod bychain: ac wedi iddo fendithio, efe a barodd ddodi'r rhai hynny hefyd ger eu bronnau hwynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd ychydig o bysgod bach ganddyn nhw hefyd; a gwnaeth Iesu yr un peth gyda'r rheiny.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac yr oedd ganddynt ychydig o bysgod bychain; ac wedi eu bendithio, dywedodd am osod y rhain hefyd ger eu bron.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac yr oedd ganddynt ychydig bysgod bychain: ac wedi iddo fendithio y cyfryw, efe a ddywedodd i osod y rhai hyn hefyd ger eu bron.