Mark 9:1 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
AC ef a ddyvot wrthwynt, Yn wir y dywedaf wrthych, pan yvv bot r’ei o’r sawl ’sy yn sefyll yma n, a’r ny’s archwayddant o angae yd pan welont. Deyrnas Duw, yn dyvot yn ei nerth.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A dywedodd wrthynt, Yn wir y dywedaf wrthych, Y mae rhai yma, o’r rhai sy’n sefyll ger llaw, y rhai ni phrofant mo angau, nes gweled o honynt deyrnas Dduw yn dyfod mewn nerth.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac meddai wrthynt, “Yn wir meddaf i chwi, y mae rhai o’r rhai sydd yma’n sefyll na phrofant flas angau nes gweled teyrnas Dduw wedi dyfod mewn nerth.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a ddywedodd wrthynt, Yn wir yr wyf yn dywedyd i chwi, fod rhai o'r rhai sydd yn sefyll yma, ni phrofant angau, hyd oni welont deyrnas Dduw wedi dyfod mewn nerth.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna meddai wrthyn nhw, “Credwch chi fi, wnaiff rhai ohonoch chi sy'n sefyll yma ddim marw cyn cael gweld Duw'n dod mewn grym i deyrnasu.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Meddai hefyd wrthynt, "Yn wir, rwy'n dweud wrthych, y mae rhai o'r sawl sy'n sefyll yma na phrofant flas marwolaeth nes iddynt weld teyrnas Dduw wedi dyfod mewn nerth."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a ddywedodd wrthynt, Yn wir meddaf i chwi, y mae rhai yma o'r rhai sydd yn sefyll, ni phrofant angeu ddim, hyd oni welant Deyrnas Dduw wedi dyfod mewn gallu.