Mark 9:10 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ hwy a gatwesant y peth hwnw wrthyn y hun, gan ymofyn bavvp a’ ei gylydd, pa beth oedd hyny, Cyvodi o veirw drachefyn?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac y gair hwn a ddaliasant, gan gydymholi yn eu plith eu hunain pa beth yw yr “Adgyfodi o feirw.”
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A daliasant ar y gair, gan ymholi yn eu plith eu hunain, “Beth yw’r cyfodi o feirw?”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hwy a gadwasant y gair gyda hwynt eu hunain, gan gydymholi beth yw'r atgyfodi o feirw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
(Felly cafodd y digwyddiad ei gadw'n gyfrinach, ond roedden nhw'n aml yn trafod gyda'i gilydd beth oedd ystyr “codi yn ôl yn fyw.”)
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Daliasant ar y gair, gan holi yn eu plith eu hunain beth oedd ystyr atgyfodi oddi wrth y meirw.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A hwy a gadwasant yn ffyddlon yr ymadrodd, gan gyd‐ymholi â hwy eu hunain beth yw yr adgyfodi o feirw.