Mark 9:11 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ gofyn iddo a orugāt, can ddywedyt, Paam y dywait y Gwyr‐llen y byð dir i Elias ddyuot yn gyntaf?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A gofynasant Iddo, gan ddywedyd, Dywaid yr ysgrifenyddion fod rhaid i Elias ddyfod yn gyntaf.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A gofynnent iddo gan ddywedyd, “Paham y dywed yr ysgrifenyddion fod yn rhaid i Elïas ddyfod yn gyntaf?”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hwy a ofynasant iddo, gan ddywedyd, Paham y dywed yr ysgrifenyddion fod yn rhaid i Eleias ddyfod yn gyntaf?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma nhw'n gofyn iddo, “Pam mae'r arbenigwyr yn y Gyfraith yn dweud fod rhaid i Elias ddod yn ôl cyn i'r Meseia gyrraedd?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A gofynasant iddo, "Pam y mae'r ysgrifenyddion yn dweud bod yn rhaid i Elias ddod yn gyntaf?"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A hwy a ofynasant iddo, gan ddywedyd, Yr Ysgrifenyddion a ddywedant fod yn rhaid i Elias ddyfod yn gyntaf.