Mark 9:12 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ef atepawdd ac a ddyuot wrthynt, Elias yn ddiau a ddaw, yn gyntaf yc a edvryd yr oll bethae: a’ megis yð escriuenwyt o Vap y dyn, rhait iddo ddyoðef llaweroedd a chael ei ðiystyry.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac Efe a ddywedodd wrthynt, Elias, yn wir, wedi dyfod yn gyntaf, a edfryd bob peth: a pha fodd yr ysgrifenwyd am Fab y Dyn mai llawer a ddioddef Efe, ac Ei ddirmygu?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Meddai yntau wrthynt, “Elïas yn wir sy’n dyfod yn gyntaf, ac a adfer bob peth; a pha fodd y mae’n ysgrifenedig am Fab y dyn, ei fod i ddioddef llawer, ac i’w ddiystyru?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Eleias yn ddiau gan ddyfod yn gyntaf a adfer bob peth; a'r modd yr ysgrifennwyd am Fab y dyn, y dioddefai lawer o bethau, ac y dirmygid ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Atebodd Iesu, “Mae Elias yn dod gyntaf reit siŵr, i roi trefn ar bopeth. Ond pam mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud fod Mab y Dyn yn mynd i ddioddef llawer a chael ei wrthod?
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Meddai yntau wrthynt, "Y mae Elias yn dod yn gyntaf ac yn adfer pob peth. Ond sut y mae'n ysgrifenedig am Fab y Dyn, ei fod i ddioddef llawer a chael ei ddirmygu?
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a ddywedodd wrthynt, Elias yn wir, wedi dyfod yn gyntaf, a edfryd bob peth. A pha fodd y mae yn ysgrifenedig am Fab y Dyn? Y bydd iddo ddyoddef llawer, ac y dirmygid ef.