Mark 9:18 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
yr hwn p’le pynac y cymer ef, a ei dryllia, ac y bwrw‐ yntef- ewyn ac y dd yscyrnyga ei ddanedd, ac y dihoena: a’ dywedais wrth dy ddiscipulon am y vwrw ef y maes, ac ny allasant.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a pha le bynnag y cymmero efe ef, ei rwygo ef y mae; a bwrw ewyn y mae yntau, ac yn ysgyrnygu dannedd, ac yn gwywo: a dywedais wrth Dy ddisgyblion ar fwrw o honynt ef allan, ac ni allasant.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
a pha le bynnag yr ymafaelo ynddo, fe’i hyrddia i lawr; ac y mae’n malu ewyn, ac yn rhincian ei ddannedd, ac yn gwywo; a dywedais wrth dy ddisgyblion am ei fwrw allan, ac nis gallasant.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A pha le bynnag y cymero ef, efe a'i rhwyga; ac yntau a fwrw ewyn, ac a ysgyrnyga ddannedd, ac y mae'n dihoeni: ac mi a ddywedais wrth dy ddisgyblion ar iddynt ei fwrw ef allan; ac nis gallasant.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan mae'r ysbryd drwg yn gafael ynddo mae'n ei daflu ar lawr, ac yna mae'n glafoerio a rhincian ei ddannedd ac yn mynd yn stiff i gyd. Gofynnais i dy ddisgyblion di fwrw'r ysbryd allan, ond doedden nhw ddim yn gallu.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a pha bryd bynnag y mae hwnnw'n gafael ynddo y mae'n ei fwrw ar lawr, ac y mae yntau'n malu ewyn ac yn ysgyrnygu ei ddannedd ac yn mynd yn ddiymadferth. A dywedais wrth dy ddisgyblion am ei fwrw allan, ac ni allasant."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A pha le bynag y cymmer afael arno, y mae yn ei daflu i lawr, ac y mae efe yn malu ewyn, ac a ysgyrniga ddanedd, ac y mae yn dihoeni: a mi a ddywedais wrth dy Ddysgyblion ar iddynt ei fwrw ef allan, ac nis gallasant.