Mark 9:19 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno ydd atepodd ef iddo, ac y dyvot, A genedlaeth anffyddlon, pa hyd weithian y byddaf gyd a chwi? pa hyd weithian ich dyoddesaf? Dugwch ef ata vi.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac Efe, gan atteb iddynt, a ddywedodd, O genhedlaeth ddiffydd, pa hyd mai gyda chwi y byddaf? Pa hyd y goddefaf chwi?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Atebodd yntau iddynt, a dywed, “O, genhedlaeth ddi-ffydd, pa hyd y byddaf, gyda chwi? Pa hyd y’ch goddefaf? Dygwch ef ataf fi.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a atebodd iddynt, ac a ddywedodd, O genhedlaeth anffyddlon, pa hyd y byddaf gyda chwi? pa hyd y goddefaf chwi? dygwch ef ataf fi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Pam dych chi mor amharod i gredu?” meddai Iesu, “Am faint dw i'n mynd i aros gyda chi? Am faint alla i'ch dioddef chi? Dewch â'r bachgen yma.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Atebodd Iesu hwy: "O genhedlaeth ddi-ffydd, pa hyd y byddaf gyda chwi? Pa hyd y goddefaf chwi? Dewch ag ef ataf fi."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a atebodd iddynt, ac a ddywed, O genedlaeth anffyddiog! hyd pa bryd y byddaf gyd â chwi? hyd pa bryd y gwnaf gyd‐ddwyn â chwi? dygwch ef ataf fi.