Mark 9:21 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ govyn a oruc ef y’w dat, Beth ’sy o amser er pan ddar vu iddo val hyn? Ac ef a ddyuot, Er yn vap.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A gofynodd Efe i’w dad, Pa faint o amser y mae hyn wedi digwydd iddo?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A gofynnodd yntau i’w dad ef, “Pa faint o amser sydd er pan ddaeth hyn arno?” Dywedodd yntau, “Er yn blentyn;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A gofynnodd yr Iesu i'w dad ef, Beth sydd o amser er pan ddarfu fel hyn iddo? Yntau a ddywedodd, Er yn fachgen.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma Iesu'n gofyn i'r tad, “Ers faint mae e fel hyn?” “Ers pan yn blentyn bach,” atebodd y dyn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gofynnodd Iesu i'w dad, "Faint sydd er pan ddaeth hyn arno?" Dywedodd yntau, "O'i blentyndod;
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a ofynodd i'w dâd ef, Pa gymmaint o amser sydd er y mae hyn wedi dygwydd iddo? Ac efe a ddywedodd, Er yn fachgenyn.