Mark 9:24 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac yn ddiohir tad y bachcen gan lefain gyd a deigrae, a ddyuot, Arglwydd, Credaf: cymmorth vy ancrediniaeth.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yn uniawn dan waeddi, tad y bachgen a ddywedodd, Credu yr wyf; cymmorth fy anghrediniaeth.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yna llefodd tad y plentyn, ac meddai, “Yr wyf yn credu; cymorth fy anghrediniaeth.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yn y fan tad y bachgen, dan lefain ac wylofain, a ddywedodd, Yr wyf fi yn credu, O Arglwydd; cymorth fy anghrediniaeth i.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Gwaeddodd tad y bachgen ar unwaith, “Dw i yn credu! Helpa di fi i beidio amau!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ar unwaith gwaeddodd tad y plentyn, "Yr wyf yn credu; helpa fi yn fy niffyg ffydd."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac yn ebrwydd tâd y bachgenyn a lefodd allan, ac a ddywedodd, Yr wyf yn credu: cymmorth fy anghrediniaeth.