Mark 9:25 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Pan welawdd yr Iesu vot y popul yn dyvot‐ atavv‐ ar ei rhedec, ef a geryddawdd yr yspryt aflan, gan ðywedyt wrthaw, Tydi yspryt mut a’ byddar, mi a ’orchymynaf yty, dyre d allan o hanaw, ac na ddos mwy ach yndaw ef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A chan weled o’r Iesu fod tyrfa yn cyd-redeg, dwrdiodd yr yspryd aflan, gan ddywedyd wrtho, Yspryd mud a byddar, Myfi a orchymynaf i ti, Tyred allan o hono; ac na ddos mwyach i mewn iddo.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A phan welodd yr Iesu fod torf yn rhedeg ynghyd yno, ceryddodd yr ysbryd aflan, gan ddywedyd wrtho, “Yr ysbryd mud a byddar, yr wyf fi yn gorchymyn iti, tyred allan ohono, ac na ddos mwy iddo.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan welodd yr Iesu fod y dyrfa yn cydredeg ato, efe a geryddodd yr ysbryd aflan, gan ddywedyd wrtho, Tydi ysbryd mud a byddar, yr wyf fi yn gorchymyn i ti, Tyred allan ohono, ac na ddos mwy iddo ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan welodd Iesu fod tyrfa o bobl yn rhedeg i weld beth oedd yn digwydd, dyma fe'n ceryddu'r ysbryd drwg a dweud wrtho, “Ysbryd mud a byddar, tyrd allan o'r plentyn yma, a paid byth mynd yn ôl eto.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A phan welodd Iesu fod tyrfa'n rhedeg ynghyd, ceryddodd yr ysbryd aflan. "Ysbryd mud a byddar," meddai wrtho, "yr wyf fi yn gorchymyn iti, tyrd allan ohono a phaid mynd i mewn iddo eto."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A phan welodd yr Iesu fod tyrfa yn cyd‐redeg tu ag ato, efe a geryddodd yr yspryd aflan, ac a ddywedodd wrtho, Tydi yspryd mud a byddar, yr wyf yn gorchymyn i ti, tyred allan o hono, ac na ddos mwyach iddo ef.