Mark 9:26 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno llefain o’r yspryt, ac y drylliodd ef yn dost, ac a dd aeth allan, ac ydd oedd ef val vn marw, y’n y ðywedei l h awer, y varw ef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A chan waeddi, a dryllio llawer arno ef, daeth allan; ac aeth y bachgen fel un marw, fel y bu i lawer ddywedyd, Y mae efe wedi marw.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac wedi llefain a’i ddirdynnu lawer, fe ddaeth allan; ac aeth ef megis celain, nes i’r lliaws ddywedyd “Bu farw.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi i'r ysbryd lefain, a dryllio llawer arno ef, efe a aeth allan: ac yr oedd efe fel un marw, fel y dywedodd llawer ei farw ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma'r ysbryd yn rhoi sgrech ac yn gwneud i'r bachgen ysgwyd yn ffyrnig, ond yna daeth allan. Roedd y bachgen yn gorwedd mor llonydd nes bod llawer yn meddwl ei fod wedi marw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A chan weiddi a'i ysgytian yn ffyrnig, aeth yr ysbryd allan. Aeth y bachgen fel corff, nes i lawer ddweud ei fod wedi marw.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac wedi llefain allan, a dirdynu llawer arno, efe a ddaeth allan, ac efe a aeth fel un marw, fel y dywedodd y llaweroedd ei fod wedi marw.