Mark 9:29 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ef a ðyvot wrthynt, Y rhyw hwn ny d all mewn vn modd ddyvot allan, any d gan ’weddi, ac vmpryd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A dywedodd wrthynt, Y rhyw hwn, ni all er dim ddyfod allan, oddieithr trwy weddi.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A dywedodd wrthynt, “Y math hwn trwy ddim ni ellir ei fwrw allan ond trwy weddi.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a ddywedodd wrthynt, Y rhyw hwn ni all er dim ddyfod allan, ond trwy weddi ac ympryd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Atebodd Iesu, “Dim ond trwy weddi mae ysbrydion drwg fel yna'n dod allan.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac meddai wrthynt, "Dim ond trwy weddi y gall y math hwn fynd allan."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a ddywedodd wrthynt, Y rhyw hwn ni all ddyfod allan trwy ddim ond trwy weddi.