Mark 9:30 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac wy a ymadawsan o dd yno, ac aethant trwy Galilaea, ac ny d ’wyllesei gael o nep wybot.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi myned allan oddiyno, ymdeithiasant trwy Galilea;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac oddiyno aethant allan, a thramwyent trwy Galilea; ac ni fynnai ef i neb wybod.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi ymadael oddi yno, hwy a ymdeithiasant trwy Galilea: ac ni fynnai efe wybod o neb.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma nhw'n gadael yr ardal honno ac yn teithio drwy Galilea. Doedd gan Iesu ddim eisiau i unrhyw un wybod ble roedden nhw,
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wedi iddynt adael y lle hwnnw, yr oeddent yn teithio trwy Galilea. Ni fynnai Iesu i neb wybod hynny,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac wedi myned allan oddi yno, hwy a ymdeithiasant trwy Galilea; ac ni fynai efe i neb wybod.