Mark 9:31 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys dyscawdd ef ei ddiscipulon, a dywedawdd wrthynt, Map y dyn a roddir yn‐ d wylo dynion, ac wy y lladant ef, a’ gwedy y lladder, ef gyvyd tragefyn y trydydd dydd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac ni fynai i neb wybod; canys dysgu Ei ddisgyblion yr oedd Efe, a dywedodd wrthynt, Mab y Dyn a draddodir i ddwylaw dynion, a lladdant Ef; ac wedi Ei ladd, ar ol tridiau yr adgyfyd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys dysgai ei ddisgyblion a dywedai wrthynt, “Traddodir Mab y dyn i ddwylo dynion, a lladdant ef; ac wedi ei ladd, ymhen tridiau fe atgyfyd.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys yr oedd efe yn dysgu ei ddisgyblion, ac yn dywedyd wrthynt, Y traddodid Mab y dyn i ddwylo dynion, ac y lladdent ef; ac wedi ei ladd, yr atgyfodai y trydydd dydd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
am ei fod wrthi'n dysgu ei ddisgyblion. “Dw i, Mab y Dyn,” meddai wrthyn nhw, “yn mynd i gael fy mradychu i afael pobl fydd yn fy lladd, ond ddeuddydd ar ôl cael fy lladd bydda i'n dod yn ôl yn fyw.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
oherwydd yr oedd yn dysgu ei ddisgyblion ac yn dweud wrthynt, "Y mae Mab y Dyn yn cael ei draddodi i ddwylo pobl, ac fe'i lladdant ef, ac wedi cael ei ladd, ymhen tri diwrnod fe atgyfoda."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys yr oedd efe yn dysgu ei Ddysgyblion, ac yn dywedyd wrthynt, Y mae Mab y Dyn yn cael ei draddodi i ddwylaw dynion, a hwy a'i lladdant ef, ac wedi ei ladd, ar ol tridiau efe a adgyfyd.