Mark 9:33 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Gwedy hyny y daeth ef i Capernaum: a’ phan oedd ef yn tuy, y govynnawdd yddynt, Pa beth oedd yr hyn a ymddadleuech yn eich plith eich hunain, rhyd y ffordd?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A daethant i Caphernahwm. A phan oedd yn y tŷ, gofynodd iddynt, Am ba beth yr ymddadleuech ar y ffordd?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A deuthant i Gapernaum. Ac wedi dyfod i’r tŷ, fe ofynnai iddynt, “Am ba beth yr ymresymech ar y ffordd?”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a ddaeth i Gapernaum: a phan oedd efe yn y tŷ, efe a ofynnodd iddynt, Beth yr oeddech yn ymddadlau yn eich plith eich hunain ar y ffordd?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma nhw'n cyrraedd Capernaum. Pan oedd yn y tŷ lle roedden nhw'n aros gofynnodd Iesu i'r disgyblion, “Am beth oeddech chi'n dadlau ar y ffordd?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Daethant i Gapernaum, ac wedi cyrraedd y tu375? gofynnodd iddynt, "Beth oeddech chwi'n ei drafod ar y ffordd?"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A hwy a ddaethant i Capernaum: a phan ddaeth efe i'r tŷ, efe a ofynodd iddynt, Am beth yr oeddych yn ymresymu ar y ffordd?