Mark 9:35 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ef a eisteddawð, ac a alwodd y deuddec, ac a ddyvot wrthyn, A’ s deisyf nep vot yn gyntaf, e gaiff vot yn ddywethaf oll, ac yn weinidoc i pawb oll.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi eistedd, galwodd y deuddeg, a dywedodd wrthynt, Os myn neb fod yn gyntaf, bydd efe olaf o’r cwbl, a gweinidog i bawb.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac fe eisteddodd, a galwodd y deuddeg, ac eb ef wrthynt, “Os myn neb fod yn flaenaf, bydded o bawb yn olaf, ac i bawb yn was.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a eisteddodd, ac a alwodd y deuddeg, ac a ddywedodd wrthynt, Os myn neb fod yn gyntaf, efe a fydd olaf o'r cwbl, a gweinidog i bawb.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Eisteddodd Iesu i lawr, a galw'r deuddeg disgybl ato, ac meddai wrthyn nhw, “Rhaid i'r sawl sydd am fod yn geffyl blaen ddysgu mynd i'r cefn a gwasanaethu pawb arall.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Eisteddodd i lawr a galwodd y Deuddeg, a dweud wrthynt, "Pwy bynnag sydd am fod yn flaenaf, rhaid iddo fod yn olaf o bawb ac yn was i bawb."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a eisteddodd, ac a alwodd y Deuddeg, ac a ddywed wrthynt, Os myn neb fod yn gyntaf, efe a fydd olaf o bawb, a gwas i bawb.