Mark 9:38 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno ydd atepawdd Ioan iddo, gan dywddyt, Athro, ys gwelsam vn yn bwrw allan gythrelieit drwy dy Enw di, yr hwn nyd yw yn eyn dylyn ni, a’ goharddesam ef, can na ðylyn ef ny ni.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Dywedodd Ioan Wrtho, Athraw, gwelsom ryw un, yr hwn oedd yn Dy enw yn bwrw allan gythreuliaid; a rhwystrasom ef am nad yw yn ein canlyn.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Meddai Ioan wrtho, “Athro, gwelsom un yn bwrw allan gythreuliaid yn dy enw di, a gwaharddem ef am nad oedd yn ein canlyn ni.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac Ioan a'i hatebodd ef, gan ddywedyd, Athro, ni a welsom un yn bwrw allan gythreuliaid yn dy enw di, yr hwn nid yw yn ein dilyn ni; ac ni a waharddasom iddo, am nad yw yn ein dilyn ni.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma Ioan yn dweud wrtho, “Athro, gwelon ni rhywun yn bwrw allan gythreuliaid yn dy enw di, a dyma ni'n dweud wrtho am stopio, am ei fod e ddim yn un o'n criw ni.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Meddai Ioan wrtho, "Athro, gwelsom un yn bwrw allan gythreuliaid yn dy enw di, a buom yn ei wahardd, am nad oedd yn ein dilyn ni."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ioan a lefarodd wrtho, gan ddywedyd, Athraw, ni a welsom un yn bwrw allan gythreuliaid yn dy enw di, ac ni a waharddasom iddo, am nad oedd yn ein canlyn ni.