Mark 9:41 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ phwy pynac a roddo i chwi gwppan eit o ddwfr y’w yfet er mvvyn vy Enw i, can y chwi vot yn perthyn i Christ, yn wir y dywedaf wrthych, ny chol’ ef ei vv obr vvy.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Canys pwy bynnag a roddo i chwi i’w yfed gwppanaid o ddwfr yn yr enw mai i Grist y perthynwch, yn wir y dywedaf wrthych,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys pwy bynnag a ro i’w yfed i chwi gwpanaid o ddŵr o achos mai eiddo Crist ydych, yn wir meddaf i chwi, ni chyll mo’i obrwy.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys pwy bynnag a roddo i chwi i'w yfed gwpanaid o ddwfr yn fy enw i, am eich bod yn perthyn i Grist, yn wir meddaf i chwi, Ni chyll efe ei obrwy.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Credwch chi fi, mae unrhyw un sy'n rhoi diod o ddŵr i chi am eich bod yn bobl y Meseia yn siŵr o gael ei wobr.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd pwy bynnag a rydd gwpanaid o ddu373?r i chwi i'w yfed o achos eich bod yn perthyn i'r Meseia, yn wir, rwy'n dweud wrthych, ni chyll ei wobr.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys pwy bynag a roddo i chwi i'w yfed gwpanaid o ddwfr yn yr enw, sef o herwydd eich bod yn perthyn i Grist, yn wir meddaf i chwi, ni chyll efe o gwbl ei wobr.