Mark 9:42 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ phwy pynac a rwystro r’ vn o’r ei bychain hyn, a gredant yno vi, gwell oedd iðo yn hytrach pe gesodit maē melin y amgylch ei vwnwg l, a ei davly yn y mor.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ni chyll efe, er dim, ei obrwy; a phwy bynnag a baro dramgwydd i un o’r rhai bychain hyn y sydd yn credu Ynof, gwell fyddai iddo o lawer pe gosodid maen mawr melin am ei wddf, a’i daflu i’r môr.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A phwy bynnag a faglo un o’r rhai bychain hyn sy’n credu, gwell fyddai iddo fod â maen melin mawr ynghrog am ei wddf, ac wedi ei daflu i’r môr.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phwy bynnag a rwystro un o'r rhai bychain hyn sydd yn credu ynof fi, gwell oedd iddo osod maen melin o amgylch ei wddf, a'i daflu i'r môr.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Pwy bynnag sy'n gwneud i un o'r rhai bach yma sy'n credu ynof fi bechu, byddai'n well iddo gael ei daflu i'r môr gyda maen melin wedi ei rwymo am ei wddf.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"A phwy bynnag sy'n achos cwymp i un o'r rhai bychain hyn sy'n credu ynof fi, byddai'n well iddo fod wedi ei daflu i'r mr maen melin mawr ynghrog am ei wddf.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A phwy bynag a rwystro un o'r rhai bychain hyn sydd yn credu ynof fi, gwell yw iddo pe rhoddid maen mawr melin am ei wddf, a'i daflu i'r môr.