Mark 9:43 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can hyny a’s dy law ath rwystra, tor y hi ymaith: gwell yw y‐ti vyned y mewn i’r bywyt, yn efrydd, nac yti a’ dwy law vyned iyffern i’r tan an d iffoddadwy,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac os tramgwydd a bair dy law i ti, tor hi ymaith, canys gwell yw myned o honot i mewn i’r bywyd yn anafus, nag a’th ddwy law genyt fyned ymaith i Gehenna, i’r tân anniffoddadwy;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac os magla dy law dydi, tor hi ymaith; gwell yw dy fyned i mewn yn anafus i’r bywyd nag â’th ddwy law gennyt fyned ymaith i Gehenna, i’r tân anniffoddadwy.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac os dy law a'th rwystra, tor hi ymaith: gwell yw i ti fyned i mewn i'r bywyd yn anafus, nag â dwy law gennyt fyned i uffern, i'r tân anniffoddadwy:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Os ydy dy law yn gwneud i ti bechu, torra hi i ffwrdd. Mae'n well i ti fynd i mewn i'r bywyd newydd wedi dy anafu, na bod gen ti ddwy law a mynd i uffern, lle dydy'r tân byth yn diffodd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Os bydd dy law yn achos cwymp iti, tor hi ymaith; y mae'n well iti fynd i mewn i'r bywyd yn anafus na mynd, a'r ddwy law gennyt, i uffern, i'r tn anniffoddadwy.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac os dy law a'th rwystra, tôr hi ymaith: gwell i ti fyned i mewn i'r bywyd yn anafus, nag â dwy law genyt fyned ymaith i Gehenna, i'r tân anniffoddadwy.