Mark 9:45 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac a’s dy droet ath rwystra, tor e ymaith: gwell yw yty vyned yn gloff i’r bywyt, nac ac yti ddau droet dy davly i yffern i’r tan andiffoðadwy,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
gwell yw myned o honot i mewn i’r bywyd yn gloff, nag a’th ddau droed genyt dy daflu i Gehenna;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac os dy droed a’th fagla, tor ef ymaith; gwell yw dy fyned i mewn i’r bywyd yn gloff nag â’th ddau droed gennyt dy daflu i Gehenna.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac os dy droed a'th rwystra, tor ef ymaith: gwell yw i ti fyned i mewn i'r bywyd yn gloff, nag â dau droed gennyt dy daflu i uffern, i'r tân anniffoddadwy:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ac os ydy dy droed yn gwneud i ti bechu, torra hi i ffwrdd. Mae'n well i ti fynd i'r bywyd newydd yn gloff, na bod gen ti ddwy droed a chael dy daflu i uffern.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac os bydd dy droed yn achos cwymp iti, tor ef ymaith; y mae'n well iti fynd i mewn i'r bywyd yn gloff na chael dy daflu, a'r ddau droed gennyt, i uffern.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac os dy droed a'th rwystra, tor hi ymaith: gwell yw i ti fyned i mewn i'r bywyd yn gloff, nag â dwy droed genyt dy daflu i Gehenna.