Mark 9:5 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno ydd atepodd Petr, ac y dyuot wrth yr Iesu, Rabbi, da yw i ni vot yma n: a’ gwnawn i ni dri phebyll, vn y ti, ac vn i Voysen, ac vn i Elias.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A chan atteb, Petr a ddywedodd wrth yr Iesu, Rabbi, ardderchog yw bod o honom yma: a gwnawn dair pabell;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac atebodd Pedr, a dywed wrth yr Iesu, “Rabbi, da yw ein bod yma; a gwnawn dair pabell — i ti un, ac i Foses un, ac i Elïas un.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Phedr a atebodd ac a ddywedodd wrth yr Iesu, Rabbi, da yw i ni fod yma: a gwnawn dair pabell; i ti un, ac i Moses un, ac i Eleias un.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma Pedr yn dweud wrth Iesu, “Rabbi, mae'n dda cael bod yma. Gad i ni godi tair lloches — un i ti, un i Moses ac un i Elias.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A dywedodd Pedr wrth Iesu, "Rabbi, y mae'n dda ein bod ni yma; gwnawn dair pabell, un i ti ac un i Moses ac un i Elias."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A Phetr a atebodd ac a ddywed wrth yr Iesu, Rabbi, da yw i ni fod yma: a bydded i ni wneuthur tair pabell, un i ti, ac un i Moses, ac un i Elias.