Mark 9:8 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac yn ddysyvyt ydd edrycheson o dd amgylch, ac ny welsont mwy ach neb un, o ddyeithr yr Iesu yn vnic y gyd ac wynt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac yn ddisymmwth wedi edrych o amgylch ni welent neb mwyach, oddieithr yr Iesu ar Ei ben Ei hun ynghyda hwynt.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac yn ddisymwth, pan edrychasant o amgylch, ni welsant neb mwyach ond yr Iesu’n unig gyda hwy eu hunain.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yn ddisymwth, pan edrychasant o amgylch, ni welsant neb mwy, ond yr Iesu yn unig gyda hwynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yn sydyn dyma nhw'n edrych o'u cwmpas, a doedd neb i'w weld yno ond Iesu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac yn ddisymwth, pan edrychasant o amgylch, ni welsant neb mwyach ond Iesu yn unig gyda hwy.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac yn ddisymwth, pan edrychasant o amgylch, ni welsant neb mwyach, ond yr Iesu yn unig gyd â hwy eu hunain.