Matthew 1:17 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r oll genedlaethae o Abraham i Ddauid, pedair Cenedlaeth ar ddec: ac o Dauid yd y treigl ir Babilon, pedair cenedlaeth ar ddec: ac o’r treigl i Vabylon yd Christ, pedair cenedlaeth ar ddec.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yr holl genhedlaethau, gan hyny, o Abraham hyd Ddafydd, pedair cenhedlaeth ar ddeg ydynt; ac o Ddafydd hyd y traws-symmudiad i Babilon, pedair cenhedlaeth ar ddeg; ac o’r traws-symmudiad i Babilon hyd Grist, pedair cenhedlaeth ar ddeg.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yr holl genedlaethau, felly, o Abraham hyd Ddafydd sydd bedair cenhedlaeth ar ddeg, ac o Ddafydd hyd y gaethglud i Fabilon pedair cenhedlaeth ar ddeg, ac o’r gaethglud i Fabilon hyd y Crist pedair cenhedlaeth ar ddeg.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Felly yr holl genedlaethau o Abraham hyd Dafydd, sydd bedair cenhedlaeth ar ddeg; ac o Dafydd hyd y symudiad i Fabilon, pedair cenhedlaeth ar ddeg; ac o'r symudiad i Fabilon hyd Grist, pedair cenhedlaeth ar ddeg.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly roedd un deg pedair cenhedlaeth o Abraham i'r Brenin Dafydd, un deg pedair cenhedlaeth o Dafydd hyd nes i'r Iddewon gael eu caethgludo i Babilon, ac un deg pedair cenhedlaeth o'r gaethglud i'r Meseia.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Felly, pedair ar ddeg yw cyfanrif y cenedlaethau o Abraham hyd Ddafydd, a phedair ar ddeg o Ddafydd hyd y gaethglud i Fabilon, a phedair ar ddeg hefyd o'r gaethglud i Fabilon hyd y Meseia.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yr holl genedlaethau, gan hyny, o Abraham hyd Ddafydd, oeddynt bedair cenedlaeth ar ddeg; ac o Ddafydd hyd y caethgludiad i Babilon, pedair cenedlaeth ar ddeg; ac o'r caethgludiad i Babilon hyd y Crist, pedair cenedlaeth ar ddeg.