Matthew 1:18 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
¶ A’ genedigaeth Iesu Christ oedd val hyn, wedy dyweddio Mair ei vam ac Ioseph, cyn na ei dyvot wy ynghyt, hi a gahat yn veichioc o’r Yspryt glan.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A genedigaeth yr Iesu Grist, fel hyn yr oedd; Wedi dyweddïo Ei fam Ef, Mair, âg Ioseph, cyn dyfod o honynt ynghyd, cafwyd hi yn feichiog o’r Yspryd Glan.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Genedigaeth Iesu Grist, fel hyn y bu: dyweddïwyd ei fam ef, Mair, i Ioseff, ond cyn iddynt ddyfod ynghyd cafwyd hi’n feichiog o’r Ysbryd Glân.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A genedigaeth yr Iesu Grist oedd fel hyn: Wedi dyweddïo Mair ei fam ef â Joseff, cyn eu dyfod hwy ynghyd, hi a gafwyd yn feichiog o'r Ysbryd Glân.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma ddigwyddodd pan gafodd Iesu y Meseia ei eni: Roedd ei fam, Mair, wedi cael ei haddo i fod yn wraig i Joseff. Ond cyn iddyn nhw briodi a chael rhyw, dyma nhw'n darganfod fod yr Ysbryd Glân wedi ei gwneud hi'n feichiog.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Fel hyn y bu genedigaeth Iesu Grist. Pan oedd Mair ei fam wedi ei dyweddo i Joseff, cyn iddynt ddod at ei gilydd fe gafwyd ei bod hi'n feichiog o'r Ysbryd Gln.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A genedigaeth yr Iesu Grist oedd fel hyn: Mair ei fam ef, wedi ei dyweddïo â Joseph, cyn eu dyfod hwy yn nghyd, a gafwyd yn feichiog o'r Yspryd Glân.