Matthew 1:19 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac Ioseph y gwr hi can ei vot yn gyfion, ac nad ewyllysei y enllibio hi, a amcanodd y rhoi hi ymaith yn ddirgel.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac Ioseph, ei gwr hi, gan ei fod yn gyfiawn, ac na fynnai ei gosod hi yn watwor, a ewyllysiodd ei rhoddi hi ymaith yn ddirgel.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A chan fod Ioseff, ei gŵr hi, yn gyfiawn, ac eto heb chwennych gwneud esiampl ohoni, fe benderfynodd ei hysgar yn ddirgel.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Joseff ei gŵr hi, gan ei fod yn gyfiawn, ac heb chwennych ei gwneuthur hi yn siampl, a ewyllysiodd ei rhoi hi ymaith yn ddirgel.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd Joseff, oedd yn mynd i'w phriodi, yn ddyn da a charedig. Doedd e ddim eisiau gwneud esiampl ohoni a'i chyhuddo hi'n gyhoeddus, felly roedd yn ystyried yn dawel fach i ganslo'r briodas.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A chan ei fod yn ddyn cyfiawn, ond heb ddymuno ei chywilyddio'n gyhoeddus, penderfynodd Joseff, ei gu373?r, ei gollwng ymaith yn ddirgel.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A Joseph ei gwr hi, yr hwn oedd ddyn cyfiawn, ac yn anfoddlon i'w gwneyd yn esiampl cyhoeddus, a ewyllysiai ei gollwng ymaith yn ddirgel.