Matthew 1:21 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ hi a ddwc vap, a’ thi elwy ei Enw ef Iesu: can ys ef a iachaa ei bopul o ddywrth ei pechatae.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac esgora hi ar fab, a gelwi Ei enw Ef Iesu, canys Efe a wared Ei bobl oddi wrth eu
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A hi esgor ar fab, a gelwi ei enw ef Iesu; canys ef a wared ei bobl oddi wrth eu pechodau.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hi a esgor ar fab, a thi a elwi ei enw ef IESU: oblegid efe a wared ei bobl oddi wrth eu pechodau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bachgen fydd hi'n ei gael. Rwyt i roi'r enw Iesu iddo, am mai fe fydd yn achub ei bobl o'u pechodau.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Bydd yn esgor ar fab, a gelwi ef Iesu, am mai ef a wareda ei bobl oddi wrth eu pechodau."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A hi a esgor ar fab, a thi a elwi ei enw ef IESU; oblegyd EFE a wared ei bobl oddiwrth eu pechodau.