Matthew 1:23 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Nycha, morwyn a vydd veichioc, ac a ddwc vap, a’ hwy alwant y enw ef, yr hwn a’s esponir, a arwyddocaa, Duw gyd a ni.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
“Wele, y forwyn fydd feichiog, ac a esgor ar fab; A galwant Ei Enw Ef Immanwel” yr hyn, o’i gyfieithu, yw, “Gyda ni Duw.”
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Wele, y forwyn a fydd feichiog ac a esgor ar fab, A galwant ei enw ef Emmanwel,hynny yw o’i gyfieithu, Duw gyda ni.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Wele, morwyn a fydd feichiog, ac a esgor ar fab; a hwy a alwant ei enw ef Emanuel; yr hyn o'i gyfieithu yw, Duw gyda ni.)
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Edrychwch! Bydd merch ifanc sy'n wyryf yn feichiog ac yn cael mab. Bydd y plentyn yn cael ei alw yn Emaniwel” (Ystyr Emaniwel ydy “Mae Duw gyda ni.”)
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Wele, bydd y wyryf yn beichiogi, ac yn esgor ar fab, a gelwir ef Immanuel", hynny yw, o'i gyfieithu, "Y mae Duw gyda ni".
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Wele, Y Forwyn a fydd feichiog, ac a esgor ar fab, a hwy a alwant ei enw ef Immanuel, yr hyn o'i ddeongli ydyw, Duw gyda ni.