Matthew 1:24 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac Ioseph, pan ddihunodd o hun, a wnaeth megis y gorchymynesei Angel yr Arglwydd yddaw: ac a gymerawdd ei wreic.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac Ioseph, wedi cyfodi o’i gwsg, a wnaeth fel y gorchymynodd angel yr Arglwydd iddo,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A phan ddeffroes Ioseff o’i gwsg, fe wnaeth fel y gorchmynasai angel yr Arglwydd iddo, a chymerth ei wraig ato;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Joseff, pan ddeffroes o gwsg, a wnaeth megis y gorchmynasai angel yr Arglwydd iddo, ac a gymerodd ei wraig:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan ddeffrodd Joseff, gwnaeth beth roedd angel Duw wedi ei ddweud wrtho. Priododd Mair,
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A phan ddeffrdd Joseff o'i gwsg, gwnaeth fel yr oedd angel yr Arglwydd wedi gorchymyn, a chymryd Mair yn wraig iddo.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A Joseph, pan gyfododd o'i gwsg, a wnaeth fel y gorchymynasai angel yr Arglwydd iddo, ac a gymmerodd ato ei wraig;