Matthew 1:8 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac Asa a genetlawdd Iosaphat. Ac Iosaphat a genetlawdd Ioram. Ac Ioram a genetlawdd Ozias.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac Asa a genhedlodd Ieoshaphat; ac Ieoshaphat a genhedlodd Ioram;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
i Abia y ganed Asaff; i Asaff y ganed Iosaffat; i Iosaffat y ganed Ioram;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac Asa a genhedlodd Josaffat; a Josaffat a genhedlodd Joram; a Joram a genhedlodd Oseias;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Asa oedd tad Jehosaffat, Jehosaffat oedd tad Jehoram, Jehoram oedd tad Wseia,
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd Asa'n dad i Jehosaffat, Jehosaffat i Joram, Joram i Usseia,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac Asa a genedlodd Jehosaphat; a Jehosaphat a genedlodd Joram;