Matthew 10:1 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
AC ef a elwis ei ddauðec discipul ataw, ac a roddes y ddyn veddiant yn erbyn ysprytion aflan, yw tavly wy allan, ac y iachay pop haint a’ phop adwyth.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi galw Atto Ei ddeuddeg disgybl, rhoddes iddynt awdurdod dros ysprydion aflan, i’w bwrw hwynt allan, ac i iachau pob clefyd a phob afiechyd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac wedi galw ato’i ddeuddeg disgybl, fe roes iddynt awdurdod ar ysbrydion aflan, i’w bwrw allan, ac i iacháu pob clefyd a phob llesgedd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi galw ei ddeuddeg disgybl ato, efe a roddes iddynt awdurdod yn erbyn ysbrydion aflan, i'w bwrw hwynt allan, ac i iacháu pob clefyd a phob afiechyd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Galwodd y deuddeg disgybl at ei gilydd, a rhoi awdurdod iddyn nhw i fwrw ysbrydion drwg allan o bobl a iacháu pob afiechyd a salwch.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wedi galw ato ei ddeuddeg disgybl rhoddodd Iesu iddynt awdurdod dros ysbrydion aflan, i'w bwrw allan, ac i iachu pob afiechyd a phob llesgedd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac wedi galw ei ddeuddeg Dysgybl ato, efe a roddes iddynt awdurdod dros ysprydion aflan, i'w bwrw hwynt allan, ac i iachau pob clefyd a phob afiechyd.