Matthew 10:14 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ phwy pynac a’r ny’s derbyn chwi, ac ny chlyw eich gairiae, pan ymadawoch o’r tuy hvvnvv nei ordinas hono, escutwch y llwch ywrth eich traet.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A phwy bynnag na’ch derbynio, ac na wrandawo eich geiriau, wrth fyned allan o’r tŷ neu y ddinas honno, ysgydwch ymaith lwch eich traed.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A phwy bynnag ni’ch croesawo, ac ni wrandawo ar eich geiriau, wrth fynd allan o’r tŷ neu’r ddinas honno, ysgydwch y llwch oddi wrth eich traed.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phwy bynnag ni'ch derbynio chwi, ac ni wrandawo eich geiriau, pan ymadawoch o'r tŷ hwnnw, neu o'r ddinas honno, ysgydwch y llwch oddi wrth eich traed.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Os bydd rhywun yn gwrthod rhoi croeso i chi ac yn gwrthod gwrando ar eich neges chi, ysgydwch y llwch oddi ar eich traed pan fyddwch yn gadael y tŷ neu'r dref honno.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac os bydd rhywun yn gwrthod eich derbyn a gwrthod gwrando ar eich geiriau, ewch allan o'r tu375? hwnnw neu'r dref honno ac ysgydwch y llwch oddi ar eich traed.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A phwy bynag ni'ch derbynio chwi, ac ni wrandawo eich geiriau chwi, wrth fyned allan o'r tŷ hwnw neu o'r ddinas hono, ysgydwch ymaith lwch eich traed.