Matthew 10:19 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eithr pan ich trawsroddan, na phryderwch pa vodd nei pa beth a ðywetoch: can ys roddir y chwy yn awr hono, pa beth a ddywetoch.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ond pan draddodant chwi, na phryderwch am ba fodd neu ba beth a lefaroch: canys rhoddir i chwi yn yr awr honno ba beth a lefaroch:
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A phan draddodont chwi, na phryderwch pa fodd neu beth a leferwch; canys rhoddir i chwi yn yr awr honno pa beth a leferwch,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr pan y'ch rhoddant chwi i fyny, na ofelwch pa fodd neu pa beth a lefaroch: canys rhoddir i chwi yn yr awr honno pa beth a lefaroch.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan gewch eich arestio, peidiwch poeni beth i'w ddweud o flaen y llys na sut i'w ddweud. Bydd y peth iawn i'w ddweud yn dod i chi ar y pryd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan draddodant chwi, peidiwch phryderu pa fodd na pha beth i lefaru, oherwydd fe roddir i chwi y pryd hwnnw eiriau i'w llefaru.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eithr pan y'ch traddodant, na phryderwch pa fodd neu pa beth a lefaroch: canys rhoddir i chwi yn yr awr hono pa beth a lefaroch.