Matthew 10:26 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Nag ofnwch wy am hyny: can nad oes dim toedic, ar ny’s didoijr: na dim cuddiedic ar na ddaw i wybodoeth.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Am hyny, nac ofnwch hwynt; canys nid oes dim wedi ei orchuddio, yr hwn ni ddatguddir; na chuddiedig, yr hwn ni wybyddir.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Gan hynny nac ofnwch hwynt; canys nid oes dim cuddiedig nas datguddir, na dirgel nas gwybyddir.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny nac ofnwch hwynt: oblegid nid oes dim cuddiedig, a'r nas datguddir; na dirgel, a'r nas gwybyddir.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Felly peidiwch â'u hofni nhw. Bydd popeth sydd wedi ei guddio yn dod i'r golwg, a phob cyfrinach yn cael ei datgelu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Peidiwch 'u hofni hwy. Oherwydd nid oes dim wedi ei guddio na ddatguddir, na dim yn guddiedig na cheir ei wybod.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Am hyny nac ofnwch hwynt: canys nid oes dim cuddiedig a'r nas datguddir; a dirgel a'r nas gwybyddir.