Matthew 10:28 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac nac ofnwch yr ei a ladd y corph, ac ny allant ladd yr enait: eithyr yn hytrach ofnwch hwn, a ðichon gyfergolli yr enait y gyd a’r corph yn yffern.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac nac ofnwch rhag y rhai sy’n lladd y corph, ond yr enaid na allant ei ladd; ond ofnwch yn hytrach yr Hwn sy’n abl i ddistrywio enaid a chorph yn Gehenna.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac nac ofnwch rhag y rhai a ladd y corff, ond ni allant ladd yr enaid; ofnwch yn hytrach yr hwn a all ddinistrio enaid a chorff yng Ngehenna.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac nac ofnwch rhag y rhai a laddant y corff, ac ni allant ladd yr enaid; eithr yn hytrach ofnwch yr hwn a ddichon ddistrywio enaid a chorff yn uffern.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Peidiwch bod ofn pobl. Maen nhw'n gallu lladd y corff ond fedran nhw ddim lladd y person go iawn. Duw ydy'r un i'w ofni — mae'r gallu ganddo e i ddinistrio'r person a'i gorff yn uffern.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A pheidiwch ag ofni'r rhai sy'n lladd y corff, ond na allant ladd yr enaid; ofnwch yn hytrach yr hwn sy'n gallu dinistrio'r enaid a'r corff yn uffern.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac nac ofnwch rhag y rhai a laddant y corff, a'r enaid nis gallant ei ladd; eithr yn hytrach ofnwch yr hwn a ddichon ddinystrio enaid a chorff yn Gehenna.